TEITL |
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin (Cymru) 2019 |
DYDDIAD |
23 Medi 2019 |
GAN |
Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol |
Rwy'n arfer fy mhwerau dan adran 87 Deddf Llywodraeth Leol 2000 i gyflwyno Gorchymyn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol sy'n newid blwyddyn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin o'r dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2021 i ddydd Iau cyntaf mis Mai 2022.
Ym
mis Mehefin 2016, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
ar y pryd ei benderfyniad i newid blwyddyn etholiadau llywodraeth
leol cyffredin o fis Mai 2016 i fis Mai 2017 fel na fyddai
etholiadau llywodraeth leol yn cyd-daro ag etholiadau'r Cynulliad
Cenedlaethol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Ar hyn o bryd, cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin yng Nghymru ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Mae'r etholiadau nesaf wedi'u trefnu ar gyfer mis Mai 2021. Dyma ddyddiad etholiad nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd.
Diwygiodd Deddf Cymru 2017 Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac mae'n atal cynnal etholiadau llywodraeth leol ar yr un diwrnod ag etholiadau cyffredin i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae angen i Weinidogion Cymru newid blwyddyn etholiadau llywodraeth leol drwy Orchymyn.
Nid yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 yn newid cylch etholiadau llywodraeth leol. Bydd ond yn symud yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf un flwyddyn o fis Mai 2021 i fis Mai 2022.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno deddfwriaeth i newid tymor swydd aelodau etholedig llywodraeth leol yn barhaol i bum mlynedd. Y bwriad yw gwneud hwn trwy Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr hydref.